6 | Diogelwch Rhoi yswiriant bywyd mewn ymddiriedolaeth Gall yswiriant bywyd ddiogelu anwyliaid, a gall fod yn ddewis doeth ei roi mewn ymddiriedolaeth. Mae’r strwythur cyfreithiol hwn yn golygu bod yr ymddiriedolaeth yn berchen ar y polisi, ac yn cyflwyno’r cyllid i’r buddiolwyr dewisol ar ôl eich marwolaeth. Gallai rhoi yswiriant bywyd mewn ymddiriedolaeth gynnig manteision o ran treth gan nad yw gwerthoedd polisi yn cael eu cyfrif yn rhan o’ch ystad fel rheol. Efallai y byddwch yn dewis bod ymddiriedolaeth yn oedi rhag talu allan i blentyn nes ei fod yn 18 oed, neu enwi partner di-briod fel buddiolwr. Mae’r broses o greu ymddiriedolaethau yn un gyflym iawn, ond eto mae deall eu buddion a’r ffordd maent yn gweithio yn hanfodol. Mae gwahanol fathau o ymddiriedolaethau yn bodoli, bob un â’i nodweddion unigryw ei hun, ac felly mae hynny’n galw am gyngor arbenigol. Mae ein tîm wrth law i drafod yr opsiynau a’ch arwain i wneud y dewis addas i chi.
RkJQdWJsaXNoZXIy NTI5NzM=