75point3 - Diogelu

Yswiriant bywyd Efallai y bydd eich marwolaeth yn annisgwyl, ond pan mae'n digwydd, gall fod yn ergyd fawr i'ch teulu a'ch anwyliaid ymdopi heb eich incwm. Mae yswiriant bywyd yn ffordd o ddiogelu'r rhai sy'n annwyl i chi rhag colled ariannol yn achos eich marwolaeth. Gellir defnyddio'r taliad gan bolisi yswiriant bywyd i glirio dyledion neu forgais, neu dalu am ofal plant neu gostau o ddydd i ddydd eraill. Ni all unrhyw beth gymryd lle person a oedd yn annwyl i chi, ond gall yswiriant bywyd helpu i sicrhau nad yw'r rhai sy'n agos atoch yn dioddef caledi ariannol pe bai'r gwaethaf yn digwydd. Yswiriant salwch difrifol Nid marwolaeth yw'r unig ddigwyddiad a all adael teulu ac anwyliaid mewn sefyllfa ariannol heriol. Gall salwch difrifol fod yr un mor ddinistriol, a'r tebygolrwydd yw na fyddwch yn gallu gweithio. Mae yswiriant salwch difrifol yn helpu i ddiogelu eich anwyliaid rhag colled ariannol yn sgil salwch, gyda thaliad untro di-dreth a all wneud gwahaniaeth mawr pe bai'r annisgwyl yn digwydd. Gellir ei ddefnyddio i dalu biliau tŷ, morgeisi neu fenthyciadau, neu dalu costau o ddydd i ddydd - gan eich helpu chi a'ch anwyliaid i oroesi cyfnodau heriol. Yswiriant diogelu incwm Beth fyddai'n digwydd i'ch arian pe na baech yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anaf? Efallai y bydd cynilion yn talu rhai costau am gyfnod, ond a fyddai gennych ddigion i oroesi yn y tymor hir? Mae yswiriant diogelu incwm yn tawelu'r meddwl gan ddarparu diogelwch rhag colled incwm annisgwyl. Pe byddai'n rhaid i chi roi'r gorau i weithio oherwydd anaf neu salwch, mae'r yswiriant yn talu swm misol a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yn ystod cyfnod lle rydych angen cymorth. Yswiriant diswyddo P'un a ydych ar gychwyn eich gyrfa, neu rydych wedi bod yn gweithio'n ddygn ers rhai blynyddoedd, gall colli eich swydd fod yn ergyd annisgwyl. Yn ogystal â'r effaith emosiynol, gall colli eich incwm rheolaidd effeithio'n ddifrifol ar gyllid eich aelwyd. Mae yswiriant diswyddo yn ffordd wych o ddiogelu eich hun rhag colli swydd, ac mae'n darparu incwm misol di-dreth y gellir ei ddefnyddio i dalu costau rheolaidd a chostau byw. Er i'ch swydd ymddangos yn sicr, mae ansicrwydd yn rhan annatod o fyd gwaith heddiw, ac efallai mai yswiriant diswyddo yw'r ffordd orau i dawelu eich meddwl. Yswiriant tŷ Mae eich aelwyd wrth galon eich bywyd teuluol, ac mae'r adeilad, yn ogystal â'i gynnwys, yn werthfawr. Gall tân, lladrad a difrod damweiniol fod yn gostus, a gall digwyddiadau annisgwyl lyncu eich arian - neu waeth. Mae yswiriant tŷ yn darparu dau brif fath o ddiogelwch sy'n cael eu prynu gyda'i gilydd fel arfer, ond gellir eu prynu ar wahân hefyd. Mae yswiriant adeiladau yn gwarchod strwythur ffisegol eich cartref yn erbyn amrywiaeth o ddigwyddiadau posib a all achosi difrod, ac mae yswiriant cynnwys yn gwarchod eich eiddo. Yn cyflwyno 75point3 Rydym yn helpu i ddiogelu eich arian rhag pethau a allai ddigwydd, a'r pethau a fydd yn digwydd. Rydym yn gwmni annibynnol, felly gallwn ystyried cynhyrchion diogelwch ar draws y farchnad, ac wrth gymryd amser i ddod i'ch deall chi a'r hyn sy'n bwysig i chi, gallwch fod yn sicr y byddwch yn dod o hyd i yswiriant sy'n bodloni eich gofynion. Rydym yn barod i helpu. We are ready to help Rydym yn gynghorwyr ariannol annibynnol a phrofiadol tu hwnt Rydym yn helpu i ddiogelu'r rhai annwyl i chi rhag effaith colled ariannol Rydym yn teilwra ein cyngor i weddu i'ch amgylchiadau penodol Nid ydym wedi ein clymu i un darparwr yswiriant, felly gallwn ystyried y farchnad gyfan Rydym yn eich cefnogi pob cam o'r daith Sut allwn ni helpu?

RkJQdWJsaXNoZXIy NTI5NzM=