75point3 - Morgais

75point3.com Gwneud pethau'n hawdd Rydym yn dechrau gyda sgwrs Mae'r morgais sy'n addas i'ch anghenion yn dibynnu ar bwy ydych chi a pham rydych eisiau morgais. Dyna pam rydym bob amser yn dechrau gyda sgwrs. Mae'n gyfle i ni ddysgu mwy amdanoch chi a chael golwg ar eich sefyllfa ariannol bresennol. Dod o hyd i'r fargen orau i chi Rydym yn falch o fod yn annibynnol, sy'n golygu y gallwn fanteisio ar y farchnad forgeisi gyfan yn hytrach na dim ond llond llaw o ddarparwyr. Rydym yn trafod eich opsiynau gyda chi ac yna'n cael penderfyniad 'mewn egwyddor' - arwydd y bydd y darparwr rydych wedi ei ddewis yn fodlon rhoi benthyciad i chi. Eich cais am forgais Ar ôl i chi wneud eich penderfyniad - a pheidiwch â phoeni, byddwn yn eich cynghori ar hyd y ffordd - byddwn yn dechrau paratoi eich cais ac yn gweithio gyda'r darparwr i sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw. Gyda'n cymorth ni, gall fod yn broses syml. Wrth eich ochr ar hyd y daith Ni fyddwn yn diflannu unwaith y bydd eich cais yn llwyddiannus. Gallwn eich tywys trwy'r camau nesaf, gan weithio gyda chyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn sicrhau bod popeth yn symud ymlaen yn esmwyth os oes angen. Eich diogelu chi Mae morgais yn ymrwymiad mawr, felly rydym hefyd yn eich cynghori ar gynhyrchion diogelwch os ydych eisiau inni wneud, rhag ofn bod yr annisgwyl yn digwydd. Gan fod morgais wedi ei sicrhau yn erbyn eich cartref neu eiddo, gallai gael ei adfeddiannu os nad ydych yn cynnal yr ad-daliad morgais. Mae 75point3 wedi fy helpu i sicrhau sawl morgais dros y 15 mlynedd diwethaf. Maen nhw'n onest ac yn hawdd delio â nhw sy'n gwneud y broses yn llawer haws.

RkJQdWJsaXNoZXIy NTI5NzM=