75point3 - Morgais

Cyfarfodydd cychwynnol Dadansoddi’ch sefyllfa • Rydym yn cynnig dewis i chi o alwad fideo diogel ar-lein, cyfarfod wyneb yn wyneb neu alwad ffôn gydag un o’n Hymgynghorwyr Morgais profiadol a chyfeillgar. • Byddwn yn egluro ein perthynas gwaith, gan gynnwys rhoi crynodeb o’n gwasanaethau a’n costau. • Mae’n gyfreithiol ofynnol i ni wneud gwiriad gwybodaeth bersonol a gofyn i chi ddod â nifer o ddogfennau gyda chi fel prawf o’ch adnabod. • Ar ôl cwblhau’r gwaith ffurfiol, bydd ein Hymgynghorydd yn gwneud gweithgaredd ‘Nodi’r Ffeithiau’ gyda chi i’ch cynorthwyo chi i ganfod pa fath o forgais/morgeisi a allai fod ei angen arnoch. • Gofynnwn gyfres o gwestiynau i chi ynghylch eich enillion, eich alldaliadau ar hyn o bryd, y swm yr ydych eisiau ei fenthyca, pa mor hir ydych chi eisiau ei fenthyca, a pha daliadau misol allwch chi eu fforddio. 1 2

RkJQdWJsaXNoZXIy NTI5NzM=