75point3 - Morgais

Gweithredu argymhelliad • Ar ôl i ni drafod y datrysiad argymelledig, byddwn yn ei anfon atoch yn ysgrifenedig. • Pan fyddwch mewn sefyllfa lle’r ydych yn barod i fynd ymlaen, rydym yn rheoli’r broses o gyflwyno’ch cais gyda’r benthyciwr morgeisi perthnasol. • Wedi dweud hynny, os nad ydych wedi sicrhau’ch eiddo hyd yn hyn, gallwn drefnu ‘Morgais mewn Egwyddor’ a ddylai eich cynorthwyo chi gyda phrynu’ch eiddo ac yna dychwelyd at y cais yn ôl yr angen. 5 Diogelu • Rydym yn trefnu cyfarfod diogelu ar wahân gyda chi, pythefnos ar ôl ein hymgynghoriad morgais cychwynnol fel arfer. • Rydym yn gwneud hyn ar wahân yn fwriadol, er mwyn ein caniatáu ni i ganolbwyntio ar eich morgais yn y cyfarfod cyntaf a rhoi ychydig o amser i chi fyfyrio ar raddfa’ch ymrwymiadau ariannol a’ch anghenion diogelu. • Rydym yn dod i’ch adnabod chi a’ch amgylchiadau, er mwyn deall eich anghenion diogelu a darparu cyngor wedi’i deilwra ar eich cyfer. • Rydym yn ystyried y farchnad yswiriant gyfan wrth chwilio am y cynnyrch mwyaf addas. • Rydym yn cyflwyno ein hargymhellion ac yn eich arwain drwy’r broses ymgeisio, ac yn eich diweddaru pob cam o’r daith. 6

RkJQdWJsaXNoZXIy NTI5NzM=