75point3 - Morgais

Cymorth parhaus • Byddwn yn ceisio rhoi gwybod i chi o leiaf tri mis cyn diwedd unrhyw bolisi morgais a pholisïau diogelu. Os nad ydych yn clywed gennym, cysylltwch â ni. • Dylech adolygu’ch trefniadau diogelu o bryd i’w gilydd neu os bydd eich amgylchiadau yn newid. • Pleser gennym fyddai addasu’ch cynlluniau neu ddod o hyd i rai newydd a allai fod yn fwy addas i chi. 8 Dilyniant morgais • Ar ôl anfon eich cais at y benthyciwr, rydym yn olrhain eich cais a byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw’r benthyciwr wedi gofyn am ragor o wybodaeth, a gall hynny gynnwys arolygon. • Os yw eich cais am forgais yn llwyddiannus, byddwch yn cael cynnig gan y benthyciwr. Byddwn yn eich cynorthwyo os nad ydych yn deall telerau’r contract a gewch. • Pan ydych yn fodlon gyda’ch cynnig gan eich benthyciwr morgais, ac rydych yn barod i fynd ymlaen yn y broses o brynu’ch eiddo, yna rydych yn barod i gysylltu â’ch Cyfreithiwr, er rydym ni wrth law i roi cymorth i chi yn ôl yr angen. • Bydd eich cyfreithiwr yn cytuno ar ddyddiad gyda chi o bryd mae’r berchnogaeth gyfreithiol yn trosglwyddo i chi. Gelwir hyn yn ‘cwblhau’. Dyma’r diwrnod y byddwch yn casglu’r allweddi. 7 Gan fod morgais wedi’i sicrhau yn erbyn eich cartref neu’ch eiddo, gallai gael ei adfeddiannu os nad ydych yn cynnal yr ad-daliad morgais.

RkJQdWJsaXNoZXIy NTI5NzM=