75point3 - Morgais

1. Gwiriad Gwybodaeth Bersonol Mae’n gyfreithiol ofynnol i ni gael prawf o’ch adnabod cyn y gallwn roi cyngor i chi. Felly, bydd angen i chi ddod â nifer o ddogfennau personol (gan gynnwys o leiaf un yn dangos ffotograff ohonoch) i’r cyfarfod i ddangos i’ch ymgynghorydd. Gweler y rhestr isod: • Pasbort DU dilys (Gwiriwch ei fod mewn dyddiad a heb ddod i ben) • Trwydded Yrru Ddilys y DU (Rhaid iddi nodi eich cyfeiriad cyfredol) • Slipiau talu y tri mis diweddaraf neu os ydych yn hunangyflogedig, cyfrifiadau treth ar gyfer tair blynedd / SA302 • Cyfriflenni banc y tri mis diweddaraf • Prawf o’ch Blaendal • Unrhyw gyllid personol sydd gennych chi’n daladwy, megis datganiadau cardiau credyd, benthyciadau personol neu gyllid ar gar 2. Morgais mewn Egwyddor (MME) Cyn i chi wneud cais am eich morgais newydd, neu wneud cynnig ar dŷ, rydym yn eich cynghori i gael Morgais mewn Egwyddor (MME) i ddangos y swmmae benthyciwr yn fodlon ei fenthyca i chi. Mae’r swm yn seiliedig ar nifer o wiriadau, megis ystyried eich incwm yn erbyn eich alldaliadau a chynnal gwiriad credyd meddal, ond ni fydd hyn yn effeithio ar eich statws credyd. Os oes angen i’r benthyciwr gynnal gwiriad credyd llawn, yna bydd yn gofyn am ganiatâd gennych chi yn gyntaf. Mae MME yn dangos i’r gwerthwr tai a’r gwerthwr eich bod yn barod i weithredu’n gyflym o ran prynu, gan eich bod eisoes wedi sefydlu’r swm y cewch ei fenthyca, yn amodol ar eich cais llawn am forgais. 3. Arolygon Arolwg prisiad morgais (gorfodol) Bydd y benthyciwr yn awyddus i gynnal prisiad o’r eiddo yr ydych yn ei brynu. Bydd yn gwirio bod yr eiddo wedi’i brisio’n gywir a’i fod yn addas iddo ddarparu morgais arno. Er bod y prisiad morgais sylfaenol hwn yn orfodol, mae mathau ychwanegol o arolygon y gellir cynghori prynwyr eu trefnu er mwyn sicrhau nad oes problemau sylfaenol gyda’r eiddo maent yn ei brynu. Adroddiad Prynwr Cartref (opsiynol) Mae Adroddiad Prynwr Cartref (neu Arolwg Prynwr Cartref) yn arolwg manylach i ddod o hyd i unrhyw broblemau mewn eiddo a allai achosi difrod ac a allai fod angen gwaith atgyweirio yn y dyfodol, a’u dogfennu, megis tamprwydd, gwaith trydanol neu ymsuddiant. Fel arfer, gwneir Adroddiad Prynwr Cartref ar dai sydd mewn cyflwr rhesymol ac mae’n gwirio am broblemau sy’n amlwg i’r llygad. Arolwg Strwythurol Llawn (opsiynol) Mae Arolwg Adeilad neu Arolwg Strwythurol Llawn yn edrych yn fanwl a chynhwysfawr ar gyflwr eiddo. Mae’n mynd i’r afael â’r lleoedd anodd eu cyrraedd a materion strwythurol. Er mai dyma un o’r mathau drytach o arolwg, yn sgil lefel y manylder yn yr adroddiad rydym yn ei argymell os ydych yn prynu eiddo hŷn (yn enwedig dros 50 oed). Bydd y pris y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar ba un ai a ydych yn dewis arolwg sylfaenol neu arolwg strwythurol llawn. Yn achos arolygon, mae’n syniad da cadw’r hen ddywediad Saesneg, ‘buyers beware’, mewn cof. Gallai talu am yr arolwg mwyaf addas yn gynnar arbed arian a thrafferth yn y pendraw. Er mai eich cyfrifoldeb chi fel prynwr yw trefnu eich arolygon eich hun, rydym yn fwy na bodlon eich arwain i gyfeiriad rhai arolygon dibynadwy. 4. Cynnig Morgais Byddwn yn eich cynorthwyo chi i wirio a deall yn llawn telerau’r contract a gewch. Bydd y cynnig yn cynnwys ‘cyfnod myfyrio’ o leiafswm o 7 diwrnod, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi wneud cymariaethau ac asesu goblygiadau derbyn cynnig eich benthyciwr. Mae’r cynnig am forgais yn ddilys am gyfnod o chwe mis pan ydych yn prynu eiddo newydd ac am dri mis os ydych yn ailforgeisio. Os yw’r cyfnod a gymerir i gwblhau yn mynd y tu hwnt i hyn, mae’n bosibl cael estyniad i’r cynnig a byddwn yn barod i’ch cynorthwyo gyda hyn fel rhan o’r broses. 5. Cyfnewid Bydd eich Cyfreithiwr yn llunio datganiad cwblhau terfynol, gweithred drosglwyddo a gweithred morgais i chi gytuno arnynt a’u llofnodi. Bydd y rhain hefyd yn amlinellu’r swm o arian y mae’n rhaid i chi ei ddarparu ar gyfer cwblhau, gan gynnwys y blaendal y bydd angen i chi ei dalu drwy eich Cyfreithiwr. Bydd chwiliadau terfynol y Gofrestrfa Tir yn cael eu trefnu gan eich Cyfreithiwr. Gwiriad terfynol yw hwn i sicrhau nad oes newidiadau wedi’u gwneud i’r Gofrestrfa Tir ers eich chwiliadau cychwynnol. Anfonir y weithred drosglwyddo at Gyfreithiwr y gwerthwr, bydd y contractau yn cael eu cyfnewid a’ch blaendal yn cael ei anfon at Gyfreithiwr y gwerthwr. Ar ôl cyfnewid, rydych wedi ymrwymo’n gyfreithiol i fynd ymlaen â phrynu’r eiddo. 6. Cwblhau Bydd eich Cyfreithiwr yn trosglwyddo’r arian at gyfreithiwr y gwerthwr ac yn cael y Weithred Drosglwyddo wedi’i llofnodi. Ar ôl gwneud hyn, cewch gasglu’r allweddi a symud i mewn gan mai chi yw perchennog cyfreithiol y tŷ. Bydd y cyfreithiwr yn mynd ymlaen i gofrestru’ch perchnogaeth gyda’r gofrestrfa tir ac yn cyflwyno unrhyw arian y dreth stamp. 7. Diogelu Rydym yn dod i’ch adnabod chi a’ch amgylchiadau, er mwyn deall eich anghenion diogelu a darparu cyngor wedi’i deilwra ar eich cyfer. Fel cwmni annibynnol, rydym yn ystyried y farchnad yswiriant gyfan wrth chwilio am y cynnyrch mwyaf addas. Rydym yn cynnig cyngor a chymorth gydag amrywiaeth o gynhyrchion diogelu gwahanol, gan gynnwys: • Yswiriant morgais • Diogelu incwm • Yswiriant salwch difrifol • Diogelu teuluol Rydym yn trafod yr opsiynau gyda chi, ac yn eich arwain wrth i chi ddewis y lefel o ddiogelu sydd ei hangen arnoch. Byddwn yn creu ac yn anfon Dyluniad Diogelu a dogfen Crynodeb o Gyngor Diogelu sy’n rhoi crynodeb o’n cyngor. Ar ôl i chi ddewis y cynnyrch diogelu sy’n addas i chi, rydym yn eich arwain drwy’r broses ymgeisio ac yn eich diweddaru pob cam o’r daith. Geirfa Beth am gael sgwrs gydag un o’n harbenigwyr heddiw? T: 01492 877299 E: info@75point3.com W: 75point3.co.uk Rydym yn Gynllunwyr Ariannol Cofrestredig, wedi ymrwymo’n gyhoeddus i ddull cwsmer yn gyntaf a gwerthoedd sy’n cydymffurfio â Chod Moeseg proffesiynol. Awdurdodir a rheoleiddir 75point3 Limited gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol - Rhif: 418618. Swyddfa Gofrestredig: 14 Ffordd Penrhyn, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8LG.

RkJQdWJsaXNoZXIy NTI5NzM=